Neuadd Pantycelyn
Mae disgwyl y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud heddiw ar ddyfodol Neuadd Pantycelyn ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Bydd Cyngor y Brifysgol yn cyfarfod y prynhawn ‘ma ar ôl i adroddiad annibynnol argymell y dylid ail-agor y llety i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith cyn gynted â phosib.
Roedd adroddiad tasglu Bwrdd Prosiect Pantycelyn hefyd yn awgrymu ail-agor y Neuadd, gan awgrymu llety en-suite, gwerth £10 miliwn, gyda 200 o ystafelloedd.
Os bydd y Cyngor yn cymeradwyo’r cynllun, gallai Neuadd Pantycelyn agor ei drysau eto o fewn tair blynedd.
Cefndir
Roedd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth eisoes wedi llwyddo i atal ymgais gynharach i gau’r neuadd breswyl a fu’n gartref i fyfyrwyr Cymraeg ers 1973 – hi oedd y gynta’ yng Nghymru.
Y llynedd fe fynnodd Prifysgol Aberystwyth y byddai’n rhaid cau’r neuadd am fod angen gwaith atgyweirio sylweddol ar yr adeilad cyn ei bod hi’n saff i fyfyrwyr fyw yno.
Ond wedi’r brotest, fe addawodd y Brifysgol y byddai’r adeilad yn ailagor yn llety i fyfyrwyr ymhen pedair blynedd ar ôl cael ei adnewyddu.
Yn y cyfamser mae myfyrwyr cyfrwng Cymraeg wedi cael eu symud i neuadd gyfagos Penbryn, ac mae rhai o’r ystafelloedd cymunedol ar lawr gwaelod Pantycelyn yn dal i gael eu defnyddio yn swyddfeydd neu ystafelloedd cymdeithasol.