Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws
Dylen ni fod yn rhagweld Gwasanaeth Iechyd “hollol ddwyieithog” yng Nghymru ymhen degawd, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws.
Ar raglen Newyddion 9 y BBC nos Fawrth, dywedodd Meri Huws fod pobol ifanc yn teimlo eu bod nhw’n “cael cam” pan nad oes gwasanaethau ar gael iddyn nhw drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywedodd y Comisiynydd y dylid cyflwyno gwasanaethau dwyieithog i gleifion o bob oed ac sy’n dioddef o bob math o gyflyrau.
“Ry’n ni wedi symud o sefyllfa lle o’n ni’n edrych ar ddementia a strôc a meddwl mai nhw oedd yr unig achosion oedd yn codi. Mae’n codi ar draws y boblogaeth, pob oedran.”
Yn ôl Cyfrifiad 2011, nododd 13.4% o feddygon, 16.7% o nyrsys, 14.3% o ddeintyddion a 23.9% o fferyllwyr eu bod nhw’n medru’r Gymraeg.
Cyfrifoldeb pwy?
Ond y farn ar y cyfan yw nad yw’r Gwasanaeth Iechyd yn gwneud digon i sicrhau bod y staff hynny’n cynnig gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn ôl Meri Huws, dylai prifysgolion a cholegau wneud mwy i sicrhau eu bod nhw’n hyfforddi staff ifanc sy’n medru’r Gymraeg i gynnal eu sgiliau yn yr iaith.
“Os feddyliwch chi, ry’n ni wedi cael degawdau o addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru. Mi ddylen ni nawr fod yn gallu llenwi swyddi yma yng Nghymru gyda phobol sy’n abl i weithio fel nyrsys, therapyddion, doctoriaid.
“Mi ddylen ni fod yn rhagweld Gwasanaeth Iechyd hollol ddwyieithog mewn deg mlynedd. Mae’n uchelgais ond dyna yw’r her.”