Carwyn Jones Llun: Y Blaid Lafur
Ethol arweinydd newydd yw’r “unig ateb” er mwyn datrys y cecru mewnol sy’n bygwth rhwygo’r Blaid Lafur yn San Steffan, yn ôl Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
Ddydd Mawrth, collodd Jeremy Corbyn bleidlais o ddiffyg hyder yn ei erbyn o 172 o bleidleisiau i 40, ond mae’n mynnu fod ganddo fe gefnogaeth aelodau’r blaid ar lawr gwlad a’r undebau o hyd, ac na fydd yn ymddiswyddo o’r herwydd.
Ond mae lle i gredu bod Angela Eagle, un o aelodau’r cabinet cysgodol sydd wedi ymddiswyddo dros y dyddiau diwethaf, yn barod i frwydro yn erbyn Corbyn am yr arweinyddiaeth.
Yn ôl Carwyn Jones, does gan y Blaid Lafur “ddim gobaith” o ennill etholiad cyffredinol o dan Corbyn nac o dan yr amgylchiadau presennol sydd, yn ôl y Prif Weinidog, “yn warthus”.
“Mae’n amlwg bod dim gobaith gyda ni fel plaid i apelio at bobol pan y’n ni’n ymladd gyda’n gilydd. Rhaid cael cystadleuaeth unwaith eto ynglŷn â phwy sy’n mynd i arwain y Blaid Lafur. Mae’n amlwg bod hynny’n hanfodol. Y’n ni’n ffaelu jyst cario ’mlaen.”
‘Dylen ni uno fel plaid’
Ychwanegodd nad oes gobaith o uno’r blaid o dan Corbyn ac felly fod rhaid ethol arweinydd newydd.
“Mae siwd gymaint o goethan tu fewn i’r Blaid Lafur. Yr unig ffordd i setlo hwn yw i gael cystadleuaeth arall.
“Mae rhai yn dweud y dylen ni uno fel plaid. Wel, dyw hyn yn amlwg ddim yn mynd i ddigwydd ar hyn o bryd, felly mae rhaid cael cystadleuaeth neu does dim gobaith gyda ni o ennill etholiad cyffredinol, a’r bobol gyffredin y’n ni’n cynrychioli fydd yn diodde, ac mae rhaid i ni sicrhau bo nhw ddim.”
‘Rhaid i bedwar Senedd y DU fod yn rhan o’r trafodaethau am yr UE’
Yn y cyfamser, wrth gyfeirio at ganlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd (UE), dywedodd y Prif Weinidog nad yw’n “ymddiried mewn unrhyw lywodraeth sydd yn Llundain ar hyn o bryd i sicrhau bod Cymru’n cael del dda felly dyna mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ei wneud.”
Dywedodd ei fod yn bwysig bod “llais ‘da Cymru ynglŷn â beth sy’n cael ei benderfynu yn y pendraw.”
Meddai: “Be sy’n bwysig ydy bod gynnon ni’r cytundeb gorau. Nid ein rôl ni yw cadw Cymru yn yr UE – mae pobl Cymru wedi rhoi eu barn nhw, mae hynny off y ford.”
Ychwanegodd Carwyn Jones nad oedd o blaid cynnal ail refferendwm ond bod angen canolbwyntio bellach ar sicrhau’r cytundeb gorau i Gymru a bod pedwar Senedd y DU yn rhan o’r trafodaethau.
“Dydy hi ddim yn ddigonol i hyn fynd drwy Senedd San Steffan yn unig heb unrhyw fath o gytundeb gyda’r seneddau eraill. Mae’n rhaid i ni gyd fod yn gytûn ynglŷn â’r dyfodol.”