Pobl yn ymgynull yn yr Aes ar gyfer rali Caerdydd dros Ewrop neithiwr: Llun: Cyfrif Twitter Caerdydd dros Ewrop
Mae un o’r siaradwyr wnaeth annerch digwyddiad yng Nghaerdydd nos Fawrth i ddathlu cyfraniad yr Undeb Ewropeaidd i Gymru wedi dweud ei bod yn “sioc” gweld cynifer o bobol wedi ymgynnull.

Cafodd y digwyddiad ei gynnal yn ardal yr Aes yn y brifddinas, gyda rhai cannoedd o bobol yn dod ynghyd i glywed amryw siaradwyr gwadd, gan gynnwys Meic Birtwistle, cynhyrchydd teledu annibynol.

Ar ôl y digwyddiad, fe ddywedodd wrth golwg360 ei bod yn “sioc bod pobol wedi dod ma’s ar fyr rybudd i ddangos eu hanfodlonrwydd, a’u bod nhw’n rhan o Ewrop”.

“Dathliad o hunaniaeth Ewropeaidd”, ac nid protest yn erbyn canlyniad y refferendwm, oedd y digwyddiad yn ôl y trefnwyr.

Mae’r rhai sydd y tu ôl i’r grŵp – Caerdydd dros Ewrop – yn griw o bobol ifanc yn eu hugeiniau cynnar sydd am “wneud rhywbeth positif” ar ôl “teimlo’n anobeithiol” yn dilyn canlyniad y refferendwm ddydd Gwener.

Fe wnaeth 75% o bobol ifanc ledled y Deyrnas Unedig bleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Meic Birtwistle wrth golwg360: “Un o’r pethau pwysig i fi, ces i fy nysgu bod yr UE wedi rhoi heddwch i ni. Dyna beth ddysgais i gan fy nhad oedd wedi gorfod ymladd yn yr Ail Ryfel Byd. Roedd e’n Geidwadwr ond roedd e’n credu’n gryf yn yr UE.

“Dwi’n ddigon hen i gofio’r refferendwm diwethaf, a dw i’n cofio fe’n dweud hyn. Do’n i ddim yn cytuno ar y pryd, ond dwi’n fwy call erbyn hyn!”

‘Poeni am hiliaeth’

Dywedodd mai prif neges y digwyddiad oedd “bo ni’n poeni am hiliaeth, a bod y cynnydd mewn troseddau hiliol yn rhywbeth sy’n codi ofn ar rywun”.

Ond roedd hefyd yn gyfle i dynnu sylw at bolisi llymder Llywodraeth San Steffan, ac arweinyddiaeth Jeremy Corbyn o’r Blaid Lafur – a’r ddau beth yn ffactorau honedig ym mhenderfyniad pobol Prydain i bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ychwanegodd Meic Birtwistle: “Ry’n ni’n wynebu mwy a mwy o lymder ac o ganlyniad, mae’n fwy pwysig fod y prif bleidiau’n cydweithio.

“Mae’n swnio’n debyg bod yr ymladd yn mynd i ddwysau [gyda Corbyn]. Roedd e’n sgeptig ond wedi sylweddoli pan oedd e’n dod ati, ein bod ni’n mynd i golli ein lle yn Ewrop, ac i newid ei feddwl.”

Manteision i Gymru o fod yn yr Undeb Ewropeaidd

Yn ôl ffigurau’r llywodraeth, mae arian yr UE wedi creu 11,900 o fentrau a thua 37,000 o swyddi yng Nghymru ers 2007.

A rhwng 2014 a 2020, roedd disgwyl i Gymru gael gwerth £1.8 biliwn o fuddsoddiad mewn prosiectau gwahanol dan yr UE.

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod £700 miliwn, sef 40% o’r cyfanswm hwn, wedi’i ymrwymo’n barod.

Ymhlith y siaradwyr eraill yn y digwyddiad roedd Leanne Wood, Shazia Awan, Jamie Bevan, Beth Button, Emyr Gruffydd, Gareth Potter a chynrychiolwyr o’r gymuned ffoaduriaid, ac fe berfformiodd Gruff Rhys o’r Super Furry Animals.

Cyfweliad: Mared Ifan