Jeremy Corbyn (Llun: Garry Knight CCA 2.0)
Mae Jeremy Corbyn yn mynnu ei fod am barhau’n arweinydd y Blaid Lafur er gwaethaf pleidlais o ddiffyg hyder yn ei erbyn.
Bellach, mae adroddiadau bod Angela Eagle, un o aelodau ei gabinet cysgodol wnaeth ymddiswyddo, yn barod i’w herio am yr arweinyddiaeth.
Pleidleisiodd aelodau seneddol Llafur o 172 i 40 o blaid cynnig o ddiffyg hyder, ac fe fydd Corbyn yn cymryd rhan yn Sesiwn Holi’r Prif Weinidog fore Mercher yn dilyn y canlyniad.
Mae Corbyn yn mynnu o hyd fod ganddo fe gefnogaeth aelodau’r blaid ar lawr gwlad, er nad oes ganddo fe gefnogaeth eang ymhlith aelodau seneddol ei blaid.
Fe gyhoeddodd Pat Glass, llefarydd addysg yr wrthblaid, y bore ma ei bod yn ymddiswyddo ar ôl cael ei phenodi i’r rol ddydd Llun.
Yn ôl Corbyn, does gan aelodau seneddol ddim “dilysrwydd cyfansoddiadol” ac fe ddywedodd ei fod e wedi cael ei ethol gan aelodau oedd yn disgwyl “math newydd o wleidyddiaeth”.
Dywedodd na fyddai’n “bradychu” y cefnogwyr hynny drwy ymddiswyddo, ac mae’n ymddangos bod ganddo fe gefnogaeth undebau llafur hefyd.
Mewn rali ddydd Mercher, mae disgwyl i arweinydd y PCS, Mark Serwotka ac Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb y Brigadau Tân, Matt Wrack siarad o blaid Corbyn.
Mae Ysgrifennydd Cyffredinol Uno’r Undeb, Len McCluskey eisoes wedi datgan ei gefnogaeth i Corbyn.
Ond mae arweinydd Llafur yr Alban, Kezia Dugdale wedi dweud wrth ITV y byddai hi wedi ymddiswyddo pe bai hi wedi wynebu’r un gwrthwynebiad ag y mae Corbyn yn ei wynebu.
Mae’r ymladd mewnol o fewn y Blaid Lafur wedi arwain at ddatganiad gan yr SNP mai nhw yw’r wrthblaid swyddogol bellach gan fod gan eu harweinydd yn San Steffan, Angus Robertson gefnogaeth mwy o aelodau seneddol nag sydd gan Corbyn.