Carwyn Jones, Llun: Senedd.tv
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn herio Deddf Undebau Llafur Llywodraeth San Steffan.

Bydd cyfraith yn cael ei chyflwyno yng Nghymru i hepgor newidiadau “niweidiol” i hawliau gweithwyr o fewn gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi’u datganoli yng Nghymru.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, y bydd y gyfraith hon yn cael ei chyflwyno yn ystod  blwyddyn gyntaf y pumed Cynulliad.

Wrth gyhoeddi rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn 2016 a 2017, cyhoeddodd Carwyn Jones chwe Mesur a fydd yn cael eu cyflwyno dros y flwyddyn nesaf.

Mae’r rhain yn cynnwys sefydlu trethi newydd i Gymru, creu gwelliannau o fewn iechyd cyhoeddus, sicrhau cyflenwad tai digonol, dod â’r cynllun Hawl i Brynu i ben a newid y system i blant a phobol ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

“Byddwn yn cael gwared a diwygiadau niweidiol Llywodraeth y DU i hawliau gweithwyr o fewn gwasanaethau cyhoeddus y mae’r Llywodraeth hon yn gyfrifol amdanynt,” meddai’r Prif Weinidog.

Cynyddu’r trothwy dros fynd ar streic

Un o brif newidiadau’r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan oedd sicrhau bod gweithredu diwydiannol ond yn digwydd os oes pleidlais gyda dros 50% o’r gweithlu yn pleidleisio.

Ac mewn gwasanaethau cyhoeddus pwysig, fel iechyd, addysg, trafnidiaeth a’r gwasanaeth tân, byddai angen trothwy ychwanegol o 40% gan aelodau i gefnogi mynd ar streic.

Does dim cadarnhad eto pryd fydd y Ddeddf yn dod i rym, ond gallai rhannau ohoni gael eu hepgor yng Nghymru.

Roedd maniffesto Llafur yn etholiadau’r Cynulliad yn ymrwymo i ymgyrchu i atal rhannau o’r ddeddfwriaeth o fewn meysydd sydd wedi’u datganoli, fel gwasanaethau cyhoeddus.

Ymateb y DU

Ymatebodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU, gan ddweud, “Mae’r Ddeddf Undebau Llafur yn gysylltiedig â hawliau gweithwyr, dyletswyddau a materion diwydiannol, y mae’r rhain yn amlwg yn faterion i Senedd y DU dan setliad datganoli Cymru.”