Mark Drakeford LLun: Senedd.tv
Mae Ysgrifennydd Cyllid Cymru yn dweud bod angen “gwneud popeth” i sicrhau na fydd Cymru yn “colli ceiniog” yn dilyn canlyniad Brexit yn y refferendwm.

Mae Mark Drakeford yn dweud mai ei flaenoriaeth nawr yw cael “eglurhad” gan Lywodraeth San Steffan ar natur y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Rhaid i Gymru fod yn rhan o’r trafodaethau hyn er mwyn i ni gael y fargen orau bosib,” meddai.

Dywed hefyd bod angen diwygio’r fformiwla Barnett “ar frys” er mwyn “sicrhau system ariannu decach i Gymru.”

Bydd Mark Drakeford yn wynebu sesiwn cwestiynau llafar yn y Senedd heddiw ar y cam nesaf ymlaen i Gymru yn dilyn y bleidlais ddydd Iau.

Mae Cymru wedi elwa’n ariannol o’r Undeb Ewropeaidd a’r broblem bellach yw sicrhau bod yr arian hwnnw yn dal i gyrraedd y wlad o San Steffan.

“Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig warantu na fydd Cymru ar ei cholled wrth adael yr Undeb Ewropeaidd,” ychwanegodd Mark Drakeford.

Arian yr UE i Gymru

Yn ôl ffigurau’r llywodraeth, mae arian yr UE wedi creu 11,900 o fentrau a thua 37,000 o swyddi ers 2007.

A rhwng 2014 a 2020, roedd disgwyl i Gymru gael gwerth £1.8 biliwn o fuddsoddiad mewn prosiectau gwahanol dan yr UE.

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod £700 miliwn, sef 40% o’r cyfanswm hwn wedi’i ymrwymo’n barod.

“Bydd toriadau i’r cyllid yn cael effaith wirioneddol ar ein cyllidebau a’n strategaethau ar gyfer swyddi a thwf,” ychwanegodd Mark Drakeford.

“Tra bod trefniadau Brexit yn cael eu gwneud ar gyfer y tymor hir, byddwn yn parhau i gyflawni rhaglenni presennol yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru, gan fuddsoddi mewn prosiectau i sicrhau cysondeb i ddinasyddion, cymunedau, ffermwyr a busnesau.”

Eglurhad ar Erthygl 50

Er mwyn gadael yr UE, rhaid i Lywodraeth y DU roi rhybudd dan Erthygl 50 o Gytundeb Lisbon, sy’n rhoi hyd at ddwy flynedd i drafod telerau.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru bwyso am eglurhad gan wleidyddion San Steffan am natur y broses, a sut fydd Cymru bellach yn cael yr arian hwnnw oedd yn dod o’r UE.

Mae angen eglurder ar hyn, meddai Mark Drakeford – “yn arbennig ar gyfer y rhannau mwyaf anghenus o Gymru.”