Boris Johnson (Llun parth cyhoeddus)
Mae enwebiadau ar gyfer arweinyddiaeth y Ceidwadwyr yn agor ddydd Mercher wrth i’r blaid chwilio am olynydd i David Cameron.

Daw’r ras i arwain y blaid yn dilyn ymddiswyddiad David Cameron fel prif weinidog ar ôl i Brydain bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae disgwyl i enw’r arweinydd newydd gael ei gyhoeddi yng nghynhadledd hydre’r blaid ac ar hyn o bryd, yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May a chyn-Faer Llundain Boris Johnson yw’r ceffylau blaen.

Stephen Crabb

Ond mae disgwyl hefyd i gyn-Ysgrifennydd Cymru a’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau presennol, Stephen Crabb gyflwyno’i enw.

Eisoes yn datgan ei gefnogaeth i Crabb mae’r Ysgrifennydd Busnes Sajid Javid ond rheolwr ei ymgyrch, yn ôl pob tebyg, fydd y Twrnai Cyffredinol Jeremy Wright.

Gwnaeth Javid a Crabb ill dau gefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ond mae honiadau bod Javid yn dawel fach am adael.

Ond mae Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Liz Truss a’r Ysgrifennydd Diwylliant,  y Cyfryngau a Chwaraeon, John Whittingdale wedi datgan eu cefnogaeth i Boris Johnson, yn ôl adroddiadau.

Mewnfudwyr

Yn y cyfamser, mae un arall o’r gweinidogion sydd wedi cael ei chrybwyll, yr Ysgrifennydd Addysg Nicky Morgan wedi dweud bod rhaid i’r blaid egluro’u safbwynt ar fewnfudwyr yn hytrach na chael eu dylanwadu gan arweinydd UKIP, Nigel Farage.

Dywedodd Nicky Morgan wrth y Daily Telegraph fod mewnfudwyr yn “fwy tebygol o fod yn eich trin chi nag o fod o’ch blaen chi yn y ciw” os ydyn nhw’n cael eu gweld yn y Gwasanaeth Iechyd.

Bydd enwebiadau ar gyfer yr arweinyddiaeth yn cau am 12 o’r gloch nos Iau, ac enw’r arweinydd newydd yn cael ei gyhoeddi erbyn Medi 9.