Teithwyr tu allan i faes awyr Ataturk, Istanbwl, wedi'r ymosodiad, Llun: (AP Photo/Emrah Gurel)
Mae dwsinau o bobl wedi’u lladd a mwy na 140 wedi’u hanafu mewn ymosodiad gan hunan-fomwyr ar faes awyr Ataturk  yn Istanbwl.

Mae milwriaethwyr o’r grŵp eithafol y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn cael eu hamau o fod yn gyfrifol am yr ymosodiad diweddaraf  i daro Twrci yn ystod y misoedd diwethaf.

Roedd cannoedd o deithwyr wedi rhuthro o’r maes awyr yn dilyn yr ymosodiadau gan dri hunan-fomiwr.

Dywedodd y Prif Weinidog Binali Yildirim bod 36 o bobl wedi’u lladd yn ogystal â’r tri hunan-fomiwr ond mae swyddogion y llywodraeth yn credu y gallai nifer y meirw godi i 50. Yn ôl gweinidog cyfiawnder y wlad Bekir Bozdag mae 147 o bobl wedi’u hanafu.

‘Bygythiad byd-eang’

Mae wedi galw am undod cenedlaethol a “chyd-weithio byd-eang” er mwyn mynd i’r afael a brawychiaeth.

“Mae hyn wedi dangos unwaith eto bod brawychiaeth yn fygythiad byd-eang. Roedd hwn yn ymosodiad ffiaidd, a oedd wedi’i gynllunio, oedd yn targedu pobl ddiniwed.”

Dywedodd Binali Yildirim bod tri hunan-fomiwr yn gyfrifol am yr ymosodiad ac mae ymchwiliadau cynnar gan luoedd diogelwch yn awgrymu mai IS oedd yn gyfrifol. Ond ychwanegodd bod eu hymchwiliadau’n parhau.

Yn ôl Binali Yildirim roedd yr ymosodwyr wedi cyrraedd y maes awyr mewn tacsi cyn tanio ergydion a ffrwydro’r dyfeisiadau. Mae ’na adroddiadau y gallai pedwerydd hunan-fomiwr fod wedi dianc a dywedodd Binali Yildirim eu bod yn ystyried pob posibilrwydd.

Dywedodd un swyddog nad oedd yr ymosodwyr wedi llwyddo i fynd heibio swyddogion diogelwch wrth fynedfa’r maes awyr.

Ymosodiad ‘ffiaidd’

Mae tramorwyr ymhlith y rhai fu farw, meddai, gan ychwanegu bod nifer o’r rhai sydd wedi’u hanafu wedi cael man anafiadau ond bod eraill mewn cyflwr mwy difrifol.

Dywed y Swyddfa Dramor eu bod yn “ceisio cael gwybodaeth ar frys” ynglŷn ag unrhyw bobl o Brydain a allai fod ymhlith y rhai sydd wedi’u lladd neu eu hanafu yn y maes awyr.

Mae Ysgrifennydd Tramor Prydain Philip Hammond wedi dweud fod Llywodraeth y DU “yn barod i helpu” ac mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi disgrifio’r ymosodiad fel un “ffiaidd.”