Jeremy Corbyn
Mae’r rhan fwyaf o Aelodau Seneddol Llafur wedi cefnogi pleidlais o ddiffyg hyder yn arweinydd y blaid, Jeremy Corbyn.

Mewn pleidlais gudd, fe wnaeth 172 o Aelodau Seneddol rhoi pleidlais o ddiffyg hyder ynddo, gyda 40 yn gwrthwynebu a phedwar yn ymatal.

Un o aelodau profiadol y meinciau cefn, Y Fonesig Margaret Hodge, wnaeth gyflwyno’r cynnig.

Mae’r bleidlais yn rhoi mwy o bwysau ar arweinydd Llafur i gamu o’r neilltu, ar ôl i’r rhan fwyaf o’i gabinet ymddiswyddo ddoe.

Fodd bynnag, does gan y bleidlais ddim statws ffurfiol o dan reolau’r blaid, ac mae cefnogwyr Corbyn yn dweud nad oes ganddo unrhyw fwriad i ildio’r awenau.

Maen nhw’n mynnu bod angen pleidlais ffurfiol i ethol arweinydd a fydd yn cael ei benderfynu gan holl aelodau’r blaid Lafur, oedd yn gefnogol iawn i Jeremy Corbyn yn y bleidlais fis Medi diwethaf.

Mae Corbyn wedi cyhoeddi prynhawn ma na fydd yn “bradychu” aelodau’r blaid drwy ymddiswyddo.