Mae “busnes yn parhau fel arfer” o ran gwerthu cig coch Cymru – ond does dim sicrwydd eto pa farchnadoedd fydd ar gael i ffermwyr Cymru wedi i Brydain ddechrau’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol.

Dyna neges Prys Morgan, Pennaeth Gweithrediadau Hybu Cig Cymru, wrth iddo ddweud wrth Golwg360 y byddan nhw’n cydweithio â Llywodraeth Cymru a San Steffan i “sicrhau’r ddêl orau i ffermwyr Cymru.”

Ychwanegodd y byddai Hybu Cig Cymru am weld mynediad i’r farchnad sengl yn parhau hyd yn oed wedi i’r broses ffurfiol o adael ddechrau – “am fod Ewrop yn farchnad bwysig iawn i ni.”

‘Wyau yn yr un fasged’

Yn y tymor byr, mae’n rhagweld y bydd y tymor gwerthu ŵyn eleni yn well na’r llynedd pan fu argyfwng yn y sector gyda’r prisiau’n disgyn tua 30% o gymharu â’r flwyddyn gynt.

Esboniodd fod y bunt wan yn rhoi mwy o werth i’r cig sy’n cael ei allforio, “ond mae mor anwadal, does neb yn medru darogan beth fydd effaith hyn yn y tymor hir.”

Am hynny, pwysleisiodd fod “gwaith caled” yn wynebu’r sefydliad wrth geisio sicrhau cytundebau newydd.

“Mae yna ddrysau eisoes wedi agor gyda llefydd fel Canada, Dubai a Hong Kong,” meddai Prys Morgan.

“Mae angen inni gofio bod ein hwyau yn yr un fasged ar hyn o bryd, ac mae angen inni weithio mwy ar farchnadoedd eraill yn lle ein bod yn ddibynnol ar un gyfradd gyfnewid yn unig.”

Statws arbennig

O ran statws arbennig cig oen a chig eidion Cymru (sef PGI y Comisiwn Ewropeaidd) dywedodd Prys Morgan y bydd Hybu Cig Cymru yn ceisio sicrhau y bydd y statws yn parhau hyd yn oed ar ôl Brexit.

“Bydd y PGI gennym am ddwy flynedd yn bendant, ac ar ôl hynny bydd angen cynnal trafodaethau. O’r hyn rydyn ni’n ddeall – cyn belled â bod cynllun tebyg yn cael ei weithredu yn y DU bydd hi’n bosib parhau â’r PGI.”

Roedd yn cydnabod fod llwyth y gwaith papur yn un o’r rhesymau pam yr oedd nifer o ffermwyr o blaid gadael yr UE.

Ond, fe gadarnhaodd y byddai cynlluniau tebyg i EID Cymru, sef system o dracio diadell, yn parhau petai’r wlad am barhau yn y farchnad sengl.

“Os ydyn ni am allforio i’r farchnad sengl, mae’n rhaid inni gwrdd â’u gofynion sy’n cynnwys sicrhau dilyniant o fewn y ddiadell ddefaid a gwartheg.”