Canghellor yr Almaen Angela Merkel Llun: PA
Mae Canghellor yr Almaen Angela Merkel wedi dweud y bydd yn gwneud “popeth yn ei gallu” i sicrhau nad yw’r Undeb Ewropeaidd yn dechrau gwahanu yn sgil penderfyniad Prydain i adael yr UE.
Wrth annerch Senedd yr Almaen cyn iddi deithio i Frwsel i gwrdd ag arweinwyr eraill Ewrop, dywedodd Angela Merkel ei bod yn disgwyl y bydd Prydain yn awyddus i gadw “perthynas glos” gyda’r UE pan fydd wedi gadael.
Ond fe awgrymodd na all Prydain ddisgwyl i’r berthynas barhau yn ôl yr arfer ac na all ddewis a dethol yr amodau.
Dywedodd eto na fydd unrhyw drafodaethau gyda Phrydain ynglŷn â gadael yr UE nes ei bod wedi dechrau’r broses ffurfiol i adael.
Mae’r Prif Weinidog David Cameron ym Mrwsel heddiw i gwrdd ag arweinwyr yr UE.
‘Cyfnod o ansicrwydd’
Mae llywydd Comisiwn yr UE Jean-Claude Juncker hefyd wedi dweud ei fod yn gwahardd unrhyw drafodaethau anffurfiol ynglŷn â Brexit nes bod y DU wedi gweithredu Cymal 50 o Gytundeb Lisbon, sef y weithred ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd wrth sesiwn arbennig o Senedd Ewrop ei fod am i’r “DU esbonio ei bwriad, nid heddiw, nid yfory am 9yb, ond yn fuan. Allwn ni ddim caniatáu i’n hunain fod mewn cyfnod o ansicrwydd amhenodol.”
Yn y cyfamser mae gweinidog amddiffyn yr Iseldiroedd, Jeanine Hennis-Plasschaert, wedi dweud bod angen cyflymu’r broses ond bod yn rhaid bod yn amyneddgar o ystyried yr argyfwng gwleidyddol o fewn y Llywodraeth a’r wrthblaid sydd wedi dod yn sgil canlyniad Brexit.
Bu Aelodau Seneddol Ewropeaidd yn rhoi teyrnged i gomisiynydd Prydain ym Mrwsel, Jonathan Hill, a ymddiswyddodd ar ôl y bleidlais wythnos ddiwethaf. Roedd na olygfeydd emosiynol wrth i’r aelodau godi ar eu traed i’w gymeradwyo.