Ali Ahmed, Cynghorydd Llafur i Gyngor Caerdydd, Llun: O wefan y cyngor
Mae Cynghorydd Mwslimaidd o Gaerdydd wedi mynegi pryder am nifer yr ymosodiadau hiliol sydd wedi deillio o ganlyniad y refferendwm ddydd Iau.
Dywedodd Ali Ahmed, sy’n 56 oed ac wedi gwasanaethu fel Cynghorydd Llafur i Gyngor Caerdydd am bedair blynedd, fod dyn wedi dweud wrtho dros y penwythnos am “adael y DU”.
Esboniodd Ali Ahmed fod y gŵr wedi gofyn iddo sut y gwnaeth bleidleisio, a’i fod yntau wedi ateb ei fod yn cefnogi’r ymgyrch i aros.
Ond, dywedodd y gŵr, “fe wnaethon ni bleidleisio i adael – pryd ydych chi’n mynd i wneud hynna?”
‘Achosi tensiynau’
“Mae’n bryderus i glywed am nifer y digwyddiadau tebyg sy’n digwydd ar draws y Deyrnas Unedig ers y canlyniad dydd Gwener – ac nid ar Fwslimiaid yn unig, ond holl wahanol genhedloedd,” meddai Ali Ahmed sydd wedi byw yng Nghymru ers 38 mlynedd.
“Dw i’n meddwl fod rhai rhannau o’r ymgyrch i adael wedi achosi tensiynau – yn enwedig poster UKIP yn dangos rhesi o ffoaduriaid. Chwaraeodd hynny ran fawr, ac mae pethau’n eithaf arswydus ar hyn o bryd.”
‘Ton o droseddau casineb’
Daw’r digwyddiad wedi i’r cyn-ymgeisydd Ceidwadol Seneddol o Gaerdydd, Shazia Awan, dderbyn cyfres o negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol yn dweud wrthi am “fynd yn ôl i’w gwlad ei hun.”
“Dyma fy nghartref i,” meddai Shazia Awan.
“Dw i’n teimlo’n hynod anghyfforddus fy mod i’n destun i hyn nawr, ac nid fi ydy’r unig un.”
Mae digwyddiadau o’r fath yn dod yn fwy cyffredin ar draws y Deyrnas Unedig, ac mae undeb llafur GMB wedi’i ddisgrifio fel “ton o droseddau casineb.”
Yn ôl eu llefarydd, “mae ymddygiad o’r math hwn yn warthus ac yn hollol annerbyniol.”
Mae Maer Llundain Sadiq Khan wedi gofyn i Scotland Yard fod yn “fwy gwyliadwrus” yn dilyn adroddiadau am gyfres o ddigwyddiadau tebyg ar draws y DU.