David Cameron (o'i dudalen Facebook)
Bydd gan y Ceidwadwyr arweinydd newydd erbyn 2 Medi eleni, yn ôl argymhelliad gan Bwyllgor Gweithredu 1922 y Ceidwadwyr.
Daw hyn fis ynghynt na’r disgwyl, pan gyhoeddodd David Cameron yn ei araith yr wythnos diwethaf yr hoffai weld ei olynydd yn ei le erbyn cynhadledd y blaid Geidwadol ar 2 Hydref.
Fe fydd yr enwebiadau’n agor dydd Mercher ac yn cau nos Iau – wythnos union wedi canlyniadau’r refferendwm.
Yr enwau posib
Mae disgwyl i’r Aelodau Seneddol ddewis dau ymgeisydd i’w cyflwyno i’r aelodaeth ehangach.
Ymysg tua 10 o ymgeiswyr posib, mae’r ddau amlwg yn cynnwys cyn Faer Llundain Boris Johnson ynghyd â’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May a oedd o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r ymgeiswyr posib eraill yn cynnwys AS Preseli Sir Benfro Stephen Crabb, Sajid Javid, Nicky Morgan, Amber Rudd, Jeremy Hunt, Andrea Leadsom, Priti Patel a Liam Fox.