Cafodd y gwasanaeth tân ei alw i ysgol yng Nghasnewydd fore Sul.

Digwyddodd y tân yn ysgol Ringland, a chafodd y gwasanaeth tân eu galw am oddeutu 7.40yb.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub y De fod y tân wedi’i gynnau’n fwriadol.