Roedd mwy na 500 o bobol yng Nghaergybi ddydd Sadwrn ar gyfer Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn y flwyddyn nesaf.

Yn sgil y tywydd, cafodd y seremoni ei symud o Barc Caergybi i’r ysgol leol ac nid oedd modd cynnal yr orymdaith ddinesig gyda’r Orsedd a sefydliadau a chymdeithasau lleol.

Cafodd y Rhestr Testunau ei chyhoeddi yn ystod y seremoni i’r Archdderwydd newydd, Geraint Llifon, sy’n olynu Christine James ar ôl i’w chyfnod hithau ddod i ben.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Derec Llwyd Morgan: “Dyma ffrwyth gweithgarwch y pwyllgorau pwnc a fu’n cyfarfod yn ystod y gaeaf a aeth heibio.

“Y mae’n Rhestr a ddylai apelio at gystadleuwyr ar hyd a lled Cymru, a mawr obeithiaf y bydd yn esgor ar weithgarwch ym mhob maes artistig a gynrychiolir gan y Rhestr.”

Yn ei araith gyntaf fel Archdderwydd, dywedodd Geraint Llifon am ei ragflaenydd: “Mae hi wedi cario allan ei gwaith gydag urddas ymhob peth a wnaeth o’r fan hon ac o’r llwyfan mawr.

“Does gen i ond ceisio dilynol ei thraed.  Mae ei choese’n hirach o gryn dipyn na fy rhai i, ac oherwydd hynny, mae cam ganddi hi’n gyfystyr â thri i mi, a bydd ei dilyn yn goblyn o waith.  Ond mi wna i fy ngore i ddal i fyny.

“Diolch drosta ni i gyd Christine am roi llais benywaidd yma i ni yng ngorsedd yr ynysoedd hyn.”

Dyma oedd ei swyddogaeth gyntaf fel Archdderwydd, a bydd yn gyfrifol am seremonïau’r Orsedd yn yr Eisteddfod yn Sir Fynwy a’r Cyffiniau eleni.

Mae’r Rhestr Testunau ar gael i’w phrynu mewn siopau llyfrau ar hyd a lled Cymru, a gellir ei phrynu ar lein ar-lein hefyd.