Catrin Stewart yn Y Llyfrgell
Mae actores o Gymru wedi ennill gwobr yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin am ei pherfformiad yn y ffilm newydd Y Llyfrgell.

Cafodd Catrin Stewart y wobr am y perfformiad gorau mewn ffilm hir Brydeinig, yn y ffilm sydd wedi’i selio ar nofel yr awdur Fflur Dafydd.

Mae’r ffilm ‘thriller’, fydd i’w gweld mewn sinemâu ym mis Awst, yn dilyn trywydd dwy efail unfath sydd yn gosod trap i lofrudd eu mam yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Euros Lyn yw’r cyfarwyddwr a hon yw ei ffilm hir gyntaf. Bydd Y Llyfrgell yn cael ei dangos yn sinema gyntaf maes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni eleni.

Cafodd Y Llyfrgell ei dangos gynta’ yng Ngŵyl Ffilm Caeredin a’r beirniaid Kim Cattrall, Clancy Brown ac Iciar Bollain a ddyfarnodd y wobr i’r actores o Gymru.

“Mae’r cymhlethdod a’r cynildeb angenrheidiol i chwarae cymeriadau sydd yn efeilliaid yn heriol a llwyddodd i gyflawni hyn a chyflwyno’r ddwy rôl mewn modd unigryw,” medda’r beirniaid.

Perfformio yn y Gymraeg

Dywedodd Catrin Stewart, sydd wedi perfformio ar raglenni fel Dr Who a Stella, bod cymryd rhan mewn cynhyrchiad Cymraeg yn destun “balder” iddi hi yn bersonol.

“Dyma fy ffilm hir gyntaf ac roedd yn her wych i gael chwarae dau gymeriad ochr yn ochr,” meddai’r ferch o Gaerdydd.

“Roedd yn grêt cael gweithio gydag Euros Lyn ac roedd sgript Fflur Dafydd mor gyffrous. I fi’n bersonol roedd yn arbennig iawn i allu gwneud ffilm yn y Gymraeg, ac rwy’n ofnadwy o falch o’r hyn sydd wedi ei greu.”

Dyma’r tro cyntaf hefyd i berfformiad yn yr iaith Gymraeg gel ei wobrwyo yn hanes yr ŵyl, sy’n “profi” gall unrhyw waith creadigol “groesi ffiniau ieithyddol”, meddai’r awdur, Fflur Dafydd.

“Wedi sgwennu’r llyfr yn wreiddiol ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol doedd dim amheuaeth mai Cymraeg fyddai’r ffilm hefyd.

“Mae llwyddiant Catrin yn profi y gall unrhyw waith creadigol, os yw o safon uchel, groesi ffiniau ieithyddol.”

Dangos Y Llyfrgell

Os am weld y ffilm ar faes y Brifwyl eleni, mae tocynnau ar gael drwy swyddfa docynnau’r Eisteddfod Genedlaethol.

Ar ôl hynny, bydd yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth, Canolfan Chapter, Caerdydd a Chanolfan Gelfyddydol Pontio, Bangor rhwng 5 a 11 Awst.

Mae disgwyl cyhoeddi lleoliadau eraill ar draws Cymru hefyd.

Hon yw’r drydedd ffilm i gael ei gwneud gan Cinematic, cynllun newydd Ffilm Cymru Wales, gafodd ei ddyfeisio gan BFI Film Fund, BBC Films, Creative Skillset, Edicis, Soda Pictures ac S4C.

Mae disgwyl y bydd y ffilm ar S4C “rhywbryd” yn y dyfodol.