Chris Coleman (Llun y Gymdeithas Bel-droed)
Mae llefarydd ar ran Cymdeithas Pêl-droed Cymru wedi cadarnhau wrth golwg360 nad ydyn nhw wedi cydweithio ag un o gyflwynwyr mwyaf blaenllaw’r BBC “ers blynyddoedd.”

Daw’r sylwadau yn dilyn adroddiadau yn y Daily Mail fod rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman, yn gwrthod cynnal cyfweliadau gyda Jason Mohammad yn ystod pencampwriaeth Ewro 2016 yn Ffrainc eleni.

Doedd y Gymdeithas Bêl-droed ddim yn barod i gynnig rhesymau am yr anghydfod, ond fe wnaethon nhw gadarnhau mai gohebwyr eraill y BBC, gan gynnwys Robbie Savage a Catrin Heledd oedd yn dal y cyffro ar ochr y cae – yn hytrach na Jason Mohammad.

Ac, yn ôl eu llefarydd, y syndod oedd fod y stori wedi ailgodi ei phen yn awr, gan fod y gwaharddiad ar gyfweliadau gyda Jason Mohammad yn ei  le “ers blynyddoedd”.

Achos y ffrae

Mae Golwg360 yn deall fod ffrae wedi bod yn nyddiau cynnar Chris Coleman yn rheolwr Cymru pan oedd Jason Mohammad yn feirniadol iawn ohono.

Fe wrthododd y BBC wneud sylw ar yr union bwynt gan ddweud,  yn lle hynny, bod Jason Mohammad yn rhan pwysig o’u tîm.

“Mae Jason yn rhan o dîm cryf ac amrywiol o ohebwyr sy’n dilyn y gweithgarwch yn Ewro 2016,” medden nhw mewn datganiad.

“Rydym yn hynod falch efo’i ohebu drwy gydol y bencampwriaeth hyd yn hyn.”

‘83 o BBC Cymru yn Ffrainc’

Roedd y Daily Mail yn honni hefyd bod 83 o staff BBC Cymru wedi’u hanfon i Ffrainc ar gyfer Ewro 2016 ond doedd y Gorfforaeth ddim yn fodlon cadarnhau hynny.

Mae blog Cyfarwyddwr BBC Sport, Barbara Slater, yn nodi fod 258 o ohebwyr y Gorfforaeth yn gyffredinol wedi’u hanfon i Ffrainc.

“Mae Ffrainc 2016 wedi ychwanegu cyffro ar gyfer cefnogwyr timau cartref gyda Lloegr, Gogledd Iwerddon a Chymru yn cymhwyso ar gyfer digwyddiad pêl-droed mawr am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd a 58 mlynedd yn eu tro.

“Bydd BBC Cymru a BBC Gogledd Iwerddon yno i gyfnewid y newyddion diweddaraf o’r gwersyll, dal straeon y lluoedd o gefnogwyr fydd yn teithio yno a darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai Barbara Slater yn ei blog.