Siân Gwenllian AC Arfon (Llun: Cyfrif Twitter Siân Gwenllian)
Mae pryderon y gall oedi hir fod cyn bwrw ymlaen â chynlluniau i adeiladu ffordd osgoi newydd ger Y Bontnewydd yng Ngwynedd.

Mae’r cynllun bellach saith mis yn hwyr ac mae pryderon y gall y cynllun fod blwyddyn ar ei hôl hi cyn cael ei gwblhau.

Mae hynny am fod trafodaethau ar sut i ddiogelu’r bywyd gwyllt gerllaw yn dal i barhau.

Roedd gorchmynion drafft y ffordd o amgylch Llanwnda, Dinas, Bontnewydd a Chaernarfon, i fod cael eu cyhoeddi ddechrau’r flwyddyn.

Ond bron i saith mis yn ddiweddarach does dim gorchmynion wedi cael eu cyflwyno hyd yn hyn, ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd hyn yn cael ei wneud ym mis Awst.

“Blwyddyn yn hwyr”

“Mae’n golygu os ydy’r gorchmynion drafft yn hwyr iawn yn cael eu cyhoeddi, mae’r holl gynllun wedyn yn mynd yn hwyr yn y dydd yn cychwyn,” meddai Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad dros Arfon.

“Dw i’n rhagweld erbyn hyn y bydd y ffordd osgoi flwyddyn ar ei hôl hi o ran pryd fydd hi’n barod i gael ei defnyddio.”

Mae’r oedi yn “siomedig iawn” yn ôl Aelod Cynulliad Plaid Cymru, gan fod y cynllun yn un “pwysig” i’r ardal.

“Mi fydd yn hwb sylweddol i’r ardal, yn gwella cysylltiadau ar gyfer yr economi, ond yn ystod y cyfnod adeiladu hefyd, mae ‘na botensial i greu swyddi lleol yn gweithio ar y ffordd a darparu gwasanaethau ar gyfer y gweithwyr.”

Diogelu bywyd gwyllt

Mae’n debyg bod safle’r ffordd newydd yn agos iawn i ardal cadwraeth, gyda rhywogaethau prin, fel ystlumod a dyfrgwn yn cael eu gwarchod yno.

“Buaswn i’n tybio ei bod hi’n reit amlwg bod yr ardal yn gynefin ar gyfer bywyd gwyllt sydd wedi’i ddiogelu dan ddeddfwriaeth, a dylid fod wedi cymryd hynny i ystyriaeth wrth ddylunio’r ffordd yn y lle cyntaf,” ychwanegodd Siân Gwenllian.

Mae’r gwaith adeiladu i fod i ddechrau ddiwedd y flwyddyn hon, gyda’r ffordd osgoi, gwerth £65m, i fod i agor ar ddiwedd 2018.

Ar ôl cael ei hadeiladu, bydd y ffordd yn mynd ar draws dwy afon ac fe fydd saith pont yn cael eu hadeiladu.

Gwrthod ‘awgrym bod oedi hir’

“Rydym yn gwrthod yn llwyr yr awgrymu bod ‘na “oedi hir” ym mhrosiect y ffordd osgoi o Gaernarfon i Bontnewydd,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y bydd “ychydig o arolygon byr ychwanegol” yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf i “sicrhau bod y mesurau lliniaru mwyaf addas yn cael eu rhoi ar waith.”

“Dydy hyn ddim yn anarferol o fewn datblygiadau ar raddfa fawr fel yr un hwn ac mae pob ymdrech yn cael ei wneud i ddatblygu’r cynllun mor gyflym â phosib.”