Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i “farwolaeth sydyn” dyn 18 oed y daethpwyd o hyd i’w gorff mewn car yn ardal Llanelli.

Cafodd y dyn ei ganfod mewn car oedd wedi’i barcio yn ardal Pum Heol tua 3.30yp ddydd Llun, Mehefin 20.

Mae adroddiadau’n honni ei fod wedi’i ganfod gyda gwn yn y car, ond mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau nad ydynt yn trin ei farwolaeth fel un amheus.

Mae’r Crwner wedi’i hysbysu.