Mae Cynghorwyr Wrecsam wedi cymeradwyo cynllun i fynd i’r afael a “chynnydd” mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dref.
Yn ystod eu Cyfarfod Llawn y bore yma, fe wnaeth y Cynghorwyr bleidleisio o blaid cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) yng nghanol y dref sy’n rhoi’r hawl i swyddogion yr heddlu symud pobol sy’n ymddwyn yn amhriodol neu gyflwyno dirwy o £100 iddynt.
Cafodd y cais ei gyflwyno yn sgil adroddiad oedd yn nodi bod 300 o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi’u hadrodd i’r heddlu yn y 12 mis diwethaf.
Roedd yr adroddiad yn nodi, “dros y blynyddoedd, mae’r dref wedi bod yn destun ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd wedi cael effaith niweidiol ar ansawdd bywyd y rheiny sy’n ymweld, byw ac yn gweithio yn yr ardal.”