Llys y Goron Caernarfon
Mae dau frawd, sy’n athrawon, wedi pledio’n euog i gyhuddiadau o fod â delweddau anweddus o blant yn eu meddiant.
Yn Llys y Goron Caernarfon heddiw, fe blediodd Dr Robyn a Dyfan Wheldon-Williams yn euog i ddeuddeg cyhuddiad rhyngddyn nhw.
Roedd y cyhuddiadau’n ymwneud â chreu ac o fod â delweddau anweddus yn eu meddiant ynghyd â ‘delweddau pornograffig eithafol’.
Fe fyddan nhw’n cael eu dedfrydu ar Orffennaf 8.
Cyn-athrawon
Roedd Robyn Wheldon-Williams yn athro yn Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon, a’i frawd Dyfan yn athro yn Ysgol y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog.
Roedd Robyn Wheldon-Williams yn ymgynghorydd Gwyddoniaeth yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala yn 2009, ac mae’n gyn-gyflwynydd S4C.
‘Atal o’u swyddi’
Mae llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau nad yw’r troseddau hyn yn ymwneud â’u gwaith i’r awdurdod.
“Pan ddaethpwyd â’r honiadau i sylw’r Cyngor, dilynwyd holl weithdrefnau amddiffyn plant, a chafodd yr aelodau staff eu hatal o’u swyddi,” ychwanegodd y llefarydd.