Mae dyn 25 oed o’r Coed Duon mewn cyflwr difrifol yn Ibiza yn dilyn ymosodiad mewn bar.

Cafodd James Hallett, 25, ei ddarganfod yn anymwybodol yn y stryd fore Llun diwethaf.

Roedd wedi cael anafiadau difrifol i’w ben ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty ym Majorca.

Roedd e wedi bod yn gwylio gêm bêl-droed rhwng yr Almaen a’r Wcráin gyda’i gariad ar Fehefin 12 cyn yr ymosodiad.

Mae lle i gredu mai criw o gefnogwyr Lloegr oedd wedi ymosod arno.

Dywedodd y Swyddfa Gartref eu bod nhw’n cynnig cefnogaeth i’w deulu.