Boris Johnson "o blaid mewnfudwyr"
Byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ffordd o sicrhau bod barn y cyhoedd am ffoaduriaid yn cael ei niwtraleiddio, yn ôl cyn-Faer Llundain Boris Johnson.

Dywedodd Johnson y byddai’r rheiny sy’n “chwarae gwleidyddiaeth” yn cael eu tawelu pe bai gan y DU reolaeth dros ei ffiniau ei hun.

Ond fe alwodd am amnest ar gyfer ffoaduriaid sydd wedi bod yng ngwledydd Prydain ers dros 12 o flynyddoedd, gan fynnu ei fod “o blaid mewnfudo”.

Gwnaeth Johnson y sylwadau mewn rali yn Llundain.

Ychwanegodd ei fod nid yn unig “o blaid mewnfudo” ond hefyd “o blaid mewnfudwyr”.

“Mae’n golygu adennill rheolaeth ar system sydd allan o reolaeth ar hyn o bryd.”

Ychwanegodd ei fod yn cefnogi system bwyntiau tebyg i Awstralia.

“Dyna’r ffordd ymlaen, sef niwtraleiddio’r eithafwyr.”