Dr Rowan Williams yn tynnu sylw at gyfraniad ffoaduriaid i'r gymdeithas
Mae cyn-Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams wedi dweud y dylid gwneud mwy i helpu ffoaduriaid, ac wedi wfftio honiadau bod gwledydd Prydain yn “llawn”.

Ar drothwy Wythnos y Ffoaduriaid, dywedodd cadeirydd presennol Cymorth Cristnogol wrth y BBC nad oes modd anwybyddu’r “argyfwng” ffoaduriaid.

Mae Llywodraeth Prydain wedi ymrwymo i dderbyn hyd at 20,000 o ffoaduriaid erbyn 2020, ac mae 1,600 eisoes wedi cyrraedd.

Dywedodd Dr Rowan Williams wrth y BBC: “Mae pobol ddespret sydd wedi cael eu gyrru allan o’u cartrefi gan ryfel yn cael eu gorfodi i fynd ar deithiau peryglus i chwilio am loches. Ond mae nifer o wledydd yn cau eu ffiniau ac yn rhoi weiren bigog i fyny.

“Ni all y DU anwybyddu’r argyfwng yma. Mi allwn ni ac mae’n rhaid i ni wneud mwy i ymateb.”

Economi

Mae’r cyn-Archesgob hefyd yn gwrthod yr awgrym bod ffoaduriaid yn rhoi straen ychwanegol ar economi Prydain.

“Mae’r rhethreg yn y cyfryngau’n un sy’n awgrymu bod y DU yn ‘llawn’, a bod y rheiny sy’n cyrraedd ein glannau’n dihysbyddu ein heconomi.

“Nid yn unig y mae’r arddeliad hwnnw’n anghywir, ond dydy e ddim yn cydnabod y cyfraniadau positif, cadarnhaol y mae cenedlaethau o ffoaduriaid wedi’i wneud i’r gymdeithas Brydeinig – a’r ffaith ein bod ni ein hunain yn cael ein newid drwy groesawu’r dieithryn.”