Gwylnos Caerdydd nos Lun (Llun: Stonewall Cymru)
Daeth cannoedd ynghyd ym Mae Caerdydd neithiwr i dalu teyrnged i’r 49 o bobol a fu farw mewn clwb nos yn Orlando, Fflorida ddydd Sul.

Digwyddodd y saethu mewn clwb nos i bobol hoyw, ac mae’n cael ei ddisgrifio fel un o’r digwyddiadau gwaethaf o’i fath yn hanes yr Unol Daleithiau.

Cafodd yr wylnos yng Nghaerdydd neithiwr ei threfnu gan ddau o sefydliadau elusennol sy’n cynrychioli pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol (LGBT) Cymru, sef Pride Cymru a Stonewall Cymru.

‘Dewis clwb hoyw yn benodol’

Yn ôl awdurdodau Fflorida, fe wnaeth y dyn arfog, Omar Mateen, ddatgan ei fod yn deyrngar i’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wrth siarad â’r heddlu ar y ffôn.

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru, wrth golwg360 “beth bynnag oedd ei gymhelliad ynglŷn ag IS, fe brynodd wn ac fe yrrodd am filltiroedd gan ddewis clwb hoyw yn benodol er mwyn lladd cymaint o bobol a allai.”

“Yn anffodus, fel pobol LGBT rydyn ni’n byw bob dydd gyda thrais, casineb a chamwahaniaethu, felly mae pobol yn ofnus ym Mhrydain a ledled y byd, dyna pam mae digwyddiadau fel neithiwr yn bwysig i ddod â sawl cymuned ynghyd i sefyll yn gadarn yn erbyn digwyddiadau o’r fath.”

Esboniodd eu bod wedi cynnal munud o dawelwch yn y brifddinas gyda chorau’n canu wrth i’r dorf chwifio eu baneri amryliw.

 

‘Ni yw’r enfys’

Yn ogystal, dywedodd Aneirin Karadog wrth golwg360 fod y “newydd wedi bod yn pwyso arna i fel cymaint o bobol eraill ledled y byd.”

Esboniodd nad oedd wedi medru mynd i’r wylnos neithiwr, ond ei fod wedi llunio cerdd er mwyn “ceisio geirio’r diystyr.”