Prisiau bwyd wedi gostwng (Llun: joerite CCA 3.0)
Doedd dim newid yng ngraddfa chwyddiant fis diwethaf, yn ôl ffigurau swyddogol.
Cafodd costau uwch am drafnidiaeth a mynd allan i fwyta eu cydbwyso gan brisiau is am ddillad a bwyd.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) roedd Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI), sy’n mesur graddfa chwyddiant, yn 0.3% ym mis Mai. Nid oes newid wedi bod ers mis Ebrill pan fu gostyngiad am y tro cyntaf ers mis Medi’r llynedd.
Roedd costau trafnidiaeth wedi cynyddu 0.9% ym mis Mai, wrth i bris disel gynyddu 3c y litr eleni o’i gymharu â 1.5c yn 2015.
Roedd cost bwytai a gwestai hefyd ar gynnydd, gan gynyddu 0.5% ym mis Mai o’i gymharu â 0.2% yn yr un mis y llynedd.
Cafodd y costau hynny eu cydbwyso gan y gostyngiad o 0.4% mewn prisiau bwyd a diodydd meddal rhwng mis Ebrill a Mai.
Roedd Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) yn 1.4% ym mis Mai, cynnydd o 1.3% ym mis Ebrill.