Cafodd 60 o organau eu rhoi yng Nghymru rhwng dechrau mis Rhagfyr y llynedd a diwedd mis Mai eleni, gyda 32 o’r rhain yn dod dan y system newydd o roi organau.

Yn y cyfnod hwn, roedd 10 person o’r 31 roddodd eu horganau wedi gwneud hynny drwy gysyniad tybiedig – y system newydd sy’n gofyn i bob un dros 18 yng Nghymru optio allan os nad ydyn nhw am roi eu horganau.

Mae’r system newydd yn cymryd yn ganiataol bod pobol sy’n gwneud dim, hynny yw, sydd ddim yn optio allan o’r system, am roi eu horganau i bobol sydd eu hangen ar ôl iddyn nhw farw.

23 o bobol a roddodd eu horganau yn ystod yr un cyfnod yn 2014-2015 a 21 yn 2013-2014.

 

‘Disgwyl newid sylweddol’

Yn ôl Ysgrifennydd Iechyd Cymru Vaughan Gething, mae’r system newydd yn gweithio ac wedi achub dwsinau o fywydau yn ystod y chwe mis cyntaf ers dod i rym.

“Rwy’n disgwyl i’r system newydd greu newid sylweddol o ran cydsynio i roi organau yng Nghymru. Wrth edrych ar y ffigurau cynnar yma, mae’n ymddangos bod hynny’n digwydd,” meddai.

“Cyflwynwyd y gyfraith hon i roi sylw i’r prinder difrifol o organau i’w trawsblannu yng Nghymru, ac rwy’n siŵr ein bod ni i gyd wedi clywed straeon torcalonnus am unigolion sydd ar restrau aros am organau.

“Hoffwn ddiolch o waelod calon i bobl Cymru am groesawu’r ddeddfwriaeth flaengar hon a hefyd am gymryd amser i ystyried, trafod a chofrestru penderfyniad am roi organau.”

Ymgyrch yn targedu pobol ifanc

Bydd y Llywodraeth yn lansio ymgyrch newydd yn yr haf i annog mwy o bobol ifanc i siarad am eu penderfyniad ynghylch rhoi organau gyda’u teuluoedd.

Mae’r system newydd yn berthnasol i bobol sydd dros 18 oed yn unig ac sydd wedi byw yng Nghymru am fwy na 12 mis a hefyd wedi marw yng Nghymru.