Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, Llun: Gwefan Alun Cairns
Bydd Aelodau Seneddol yn trafod Mesur Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw mewn dadl fydd yn para bron i saith awr.
Mae’r mesur yn mynd trwy ailddarlleniad am 12:30 prynhawn ‘ma, a does dim disgwyl i’r sesiwn orffen tan tua 7yh.
Ar ôl hynny, bydd yn cael ei drosglwyddo i un o bwyllgorau Tŷ’r Cyffredin, a fydd yn craffu ar y ddeddfwriaeth yn fwy manwl ac yn cynnig gwelliannau iddi.
Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, fydd yn agor y ddadl heddiw, a fe hefyd gyflwynodd y mesur yr wythnos ddiwethaf, yn dilyn misoedd o ddadlau rhwng gwleidyddion Bae Caerdydd a San Steffan.
Is-ysgrifennydd Cymru, Guto Bebb, fydd yn cloi’r sesiwn yn Nhŷ’r Cyffredin.
Mae’r mesur yn rhoi pwerau newydd i Gynulliad Cymru, gyda’r hawliau i ddeddfu ar dreth incwm, cyfyngiadau cyflymder, ffracio, porthladdoedd ac etholiadau, gyda’r hawl i newid yr oedran pleidleisio o 18 i 16 oed.
Bydd hefyd yn rhoi statws Senedd i’r Cynulliad am y tro cyntaf erioed pan fydd y ddeddfwriaeth yn cael ei phasio, ac mae golwg360 ar ddeall fydd hynny erbyn tua mis Ebrill 2017.
Gwelliannau
Mae disgwyl digon o drafod yn San Steffan heddiw, wrth i wleidyddion Plaid Cymru a Llafur Cymru alw am fwy o newidiadau i’r mesur.
Dywedodd arweinydd grŵp Plaid Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin, Hywel Williams, ei fod yn croesawu’r Mesur ond y bydd ei blaid yn ceisio ei ddiwygio ymhellach.
“Bydd Plaid Cymru yn ceisio diwygio’r Mesur i sicrhau bod pobol Cymru yn cael eu trin â’r un parch â phobol yr Alban a gobeithiwn y bydd pleidiau eraill yn ein dilyn drwy gefnogi ein gwelliannau yn y Senedd a’n cynigion yn y Cynulliad Cenedlaethol,” meddai.
Croeso gofalus sydd i’r mesur gan Lywodraeth Cymru, gyda’r Prif Weinidog yn dweud bod y mesur “ymhell o fod yn berffaith”.
Dywedodd Carwyn Jones fod “nifer o fanylion pwysig eto i’w datrys” ac mai un o’r prif broblemau yw y gall y Trysorlys benderfynu ar hyn o bryd y byddan nhw’n datganoli’r dreth incwm heb ganiatâd y Cynulliad neu’r Llywodraeth.
Ychwanegodd fod darpariaethau’r Mesur ar gyfer dŵr yn “annerbyniol” gan nad ydyn nhw’n ufuddhau i Gytundeb Gŵyl Ddewi a mynegodd bryder am gyflogau athrawon.