Pont Hafren
Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yng Nghas-gwent heddiw i drafod dyfodol pontydd Hafren.

Mae’r cyfarfod yn rhan o ymchwiliad gan Bwyllgor Materion Cymreig, Llywodraeth San Steffan.

Bwriad y cyfarfod yw clywed barn a phrofiadau’r cyhoedd sy’n defnyddio’r pontydd o ddydd i ddydd ac archwilio ffyrdd i’w gwella.

Fe fydd cynrychiolwyr o’r Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau hefyd yn cyflwyno tystiolaeth i’r pwyllgor heddiw.

Dywedodd AS Trefynwy, David Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig: “A ninnau gam yn nes at bontydd Hafren yn dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus rydyn ni’n credu ei bod yn bwysig deall sut mae’r bobol sy’n eu defnyddio’n ddyddiol yn teimlo am y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu.

“Byddwn hefyd yn edrych ar welliannau posibl, fel gosod systemau electronig i dalu o flaen llaw er mwyn gwella teithiau pobol.”