Cefnogwyr pel-droed yn ystod y trafferthion ym Marseille Llun: PA
Fe allai Lloegr a Rwsia wynebu gwaharddiadau o bencampwriaeth Ewro 2016 os yw’r ymddygiad tebyg i’r hyn a welwyd yn Marseille dros y penwythnos yn parhau.

Cafodd mwy na 100 o bobol eu harestio am drosedd a fandaliaeth dros gyfnod o dridiau yn ninas Marseille lle cynhaliwyd yr ornest rhwng Lloegr a Rwsia.

Mae Llywodraeth Ffrainc wedi rhybuddio fod gwrthdaro o’r fath yn tynnu sylw’r heddlu oddi ar y frwydr yn erbyn brawychiaeth.

O ganlyniad mae UEFA, y corff sy’n rheoli’r gêm yn Ewrop, wedi rhybuddio awdurdodau pêl-droed y ddwy wlad na fyddent yn oedi rhag cyflwyno sancsiynau pellach gan gynnwys gwaharddiadau o’r bencampwriaeth os yw ymddygiad o’r fath yn parhau.

Cyfyngu alcohol

Yn ogystal, mae Gweinidog Cartref Ffrainc, Bernard Caseneuve, wedi galw ar gyfyngiadau ar alcohol yn y dinasoedd sy’n cynnal y gemau.

Gallai’r cyfyngiadau hyn gael eu cyflwyno dros noswyl a diwrnodau’r gemau a’u gweithredu mewn mannau cyhoeddus, tafarndai, siopau ac yn y stadiymau.

Mae Lens, y ddinas fydd yn cynnal y gêm rhwng Cymru a Lloegr ddydd Iau eisoes wedi gwahardd gwerthu gwirodydd yng nghanol y dref ac maent wedi galw ar yr heddlu i gosbi tafarndai sy’n gwerthu alcohol i gwsmeriaid meddw.

Mae pryderon hefyd y gallai llwybrau cefnogwyr Lloegr a Rwsia groesi unwaith eto yn Lille, 20 milltir o Lens, lle mae Rwsia yn chwarae Slofacia ddydd Mercher.

Mwy o heddlu o’r DU

Ddoe, fe gyhoeddodd Ysgrifennydd Cartref San Steffan, Theresa May, bod Llywodraeth Prydain yn bwriadu anfon mwy o blismyn i gynorthwyo heddlu Ffrainc.

Yn ôl llefarydd ar ran Stryd Downing, fe allai swyddogion heddlu’r DU “gynorthwyo â diogelwch y gweithrediadau o gylch y gêm yn Lens.”

Er hyn, mae’r wasg Ffrengig wedi canmol ymddygiad cefnogwyr Cymru wrth iddyn nhw ddathlu eu buddugoliaeth 2 – 1 yn erbyn Slofacia ddydd Sadwrn.