George North (Llun: Joe Giddens/PA)
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi fod George North allan o daith Cymru yn erbyn Seland Newydd ar ôl iddo ddioddef o anaf i linyn y gar yn ystod y prawf cyntaf yn Auckland ddydd Sadwrn.

Er bod y crysau cochion wedi arwain yn yr hanner cyntaf, colli 39 – 21 oedd yr hanes yn erbyn Seland Newydd ddydd Sadwrn.

Yn ôl datganiad gan Undeb Rygbi Cymru: “Mae George North allan o daith Cymru yn Seland Newydd ac mae wedi’i ryddhau o’r garfan.

“Fe wnaeth ddioddef o anaf i linyn y gar yn ystod y prawf cyntaf yn Auckland, ac mae wedi’i ddiystyru o weddill gemau Cymru.”

Cafodd Rhys Patchell o’r Scarlets ei alw ddydd Sadwrn wedi’r anaf, ac mae Warren Gatland hefyd wedi galw ar Keelan Giles o’r garfan dan 20 i gamu i’r adwy.

Fe wnaeth Keelan Giles, o’r Gweilch, sgorio ddwywaith yn gêm agoriadol y twrnamaint yr wythnos diwethaf yn erbyn Iwerddon.

Mae disgwyl i Gymru wynebu’r Chiefs ddydd Mawrth, gyda’r prawf nesaf ddydd Sadwrn yn Stadiwm Westpac, Wellington.