Tarodd Colin Ingram 95 heb fod allan wrth i Forgannwg drechu Swydd Gaint o dair wiced drwy ddull Duckworth/Lewis yng nghystadleuaeth 50 pelawd Royal London yng Nghaergaint ddydd Sul.
Ond roedd canred yr un hefyd i Sam Billings a Joe Denly wrth i Swydd Gaint osod nod o 291 i Forgannwg mewn 42 o belawdau drwy ddull Duckworth-Lewis.
Roedd y bartneriaeth o 170 rhwng y ddau yn record i’r sir mewn gêm Rhestr A, gan drechu’r 146 gan Alan Ealham a Chris Tavare yn San Helen yn 1980.
Cyrhaeddodd Morgannwg y nod gyda saith pelen yn weddill wrth i Colin Ingram orffen ei fatiad heb fod allan ar 95, ar ôl taro pedwar pedwar a chwech chwech.
Fe darodd y clatsiwr David Lloyd 65 wrth agor y batiad, ac roedd hanner canred hefyd i Will Bragg (52).
Mae Morgannwg yn parhau’n ddi-guro yn y gystadleuaeth.