Mae’r Cymro Aled Siôn Davies wedi cipio’r fedal aur yng nghystadleuaeth y siot F42 ym Mhencampwriaethau Ewrop yr IPC yn Grosseto yn yr Eidal.

Fe daflodd y para-athletwr o Ben-y-bont ar Ogwr bellter o 16.11 metr, bron i dair metr ymhellach na Badr Touzi, y Ffrancwr a gipiodd y fedal arian am dafliad o 13.35 metr.

Tom Habscheid o Lwcsembwrg gipiodd y fedal efydd am dafliad o 12.98 metr.

Aled Siôn sydd â’r record Ewropeaidd a record y byd (16.13 metr) yn y gystadleuaeth hon.