Cefnogwyr Lloegr ym Marseille
Mae Ysgrifennydd Cartref San Steffan, Theresa May wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Prydain yn bwriadu anfon rhagor o blismyn i Ffrainc ar gyfer y gêm bêl-droed rhwng Cymru a Lloegr yn Lens ddydd Iau.

Cafodd nifer o gefnogwyr eu hanafu’n ddifrifol ar ôl yr ornest rhwng Lloegr a Rwsia ym Marseille nos Sadwrn.

Dywedodd May ei bod hi wedi siarad â’r gweinidog yn Ffrainc, Bernard Cazeneuve yn dilyn y digwyddiad.

Mae UEFA, y corff sy’n rheoli’r gêm yn Ewrop, wedi rhybuddio bod Rwsia a Lloegr yn wynebu cael eu hanfon adref o’r gystadleuaeth pe bai rhagor o ymladd.

Er gwaethaf ymddygiad y cefnogwyr yn y gêm honno, mae cefnogwyr Cymru wedi cael eu canmol am eu hymddygiad nhw yn Bordeaux ar ddiwrnod eu buddugoliaeth o 2-1 dros Slofacia.