Cefnogwyr Cymru yn Ffrainc
Mae un o brif bapurau newydd chwaraeon Ffrainc, L’Equipe wedi talu teyrnged i gefnogwyr Cymru am y ffordd y gwnaethon ni ddathlu’r fuddugoliaeth o 2-1 dros Slofacia yn Ewro 2016.
Roedd mwy nag 20,000 o gefnogwyr yn Bordeaux ar gyfer y gêm ac mae’r papur yn disgrifio’r awyrgylch parti ar y strydoedd, yn y cae ac yn y tafarnau.
Dywedodd y papur fod cefnogwyr Cymru’n “rhyfeddol, yn niferus, yn swnllyd ond yn heddychlon”.
Fe gyfeirion nhw at “emyn i roi ias i chi” a’r “canu di-ddiwedd”.
Ychwanegodd yr erthygl: “Y cyfan welwch chi yw coch”.
Dywedodd yr erthygl fod y Cymry’n gallu “godde’r ddiod yn well nag eraill” yn dilyn ymladd a thrais ar strydoedd Marseille ymhlith cefnogwyr Lloegr a Rwsia.
Dywedodd y papur fod cefnogwyr Cymru’n “rhoi nerth a hyder nad oes modd ei ddinistrio” i’r tîm.
Cafodd gôl Hal Robson-Kanu, a sicrhaodd y fuddugoliaeth, ei disgrifio fel un “y gwelwch chi ar brynhawn dydd Sul yng Nghasnewydd”.
Dywedodd y darn fod gan Loegr “achos i boeni” wrth iddyn nhw fynd benben â Chymru ddydd Iau.
Mae UEFA wedi cadarnhau eu bod nhw’n cymryd camau disgyblu yn erbyn Rwsia yn sgil y trais ym Marseille ddydd Sadwrn.