Ifor ap Glyn, bardd cenedlaethol Cymru Llun: S4C
Mae dros 100 o enwau adnabyddus ym myd celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae rhestr y datganiad cyhoeddus yn cynnwys enwau fel yr actor Michael Sheen, bardd cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, y delynores Catrin Finch a Richard Harrington o gyfres deledu Y Gwyll.
Yn y datganiad, mae’r awduron yn dweud eu bod yn “gwrthod” y syniad o “adael y teulu o genhedloedd sy’n rhannu gymaint gyda ni” ac yn dweud bod “cysylltiad diwylliannol” Ewrop mor bwysig “â’r un economaidd.”
Mae enwau eraill o faes diwylliant Cymraeg sydd wedi llofnodi’r datganiad yn cynnwys y beirdd, Mererid Hopwood, Catrin Dafydd, Tudur Dylan Jones, T James Jones, Eurig Salisbury ac Aneirin Karadog.
Mae awduron fel Bethan Gwanas, Fflur Dafydd, Jon Gower ac Owen Sheers hefyd wedi arwyddo.
Diwylliant Cymru wedi ‘elwa’
“Mae perfformwyr Cymreig wedi hen arfer â theithio a pherfformio heb rwystr ar hyd a lled y UE,” meddai’r datganiad.
“Mae’r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru, yn ogystal â chanolfannau a chyrff celfyddydol wedi elwa o fuddsoddiad gan yr Undeb Ewropeaidd.
“Mae hyn wedi galluogi ein llenyddiaeth i gyrraedd marchnadoedd newydd, gwaith ein beirdd i gael ei ddarllen a’u hastudio mewn gwledydd eraill, a’n hopera i gael ei fwynhau ledled y byd.”
Mae’r datganiad yn cydnabod nad yw’r UE yn berffaith, gan ddweud ei bod yn “well trwsio na thorri, gwell creu na dinistrio.”
“Gwell aros na gadael,” meddai, “Ein Ewrop ni yw hon – ein cyfrifoldeb ni yw ei dyfodol.”
Gadael yn “boenus ac yn annaturiol”
Un sydd wedi arwyddo yw cyn-Fardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke, sy’n dweud ei bod yn “teimlo’n rhan o’r teulu o genhedloedd hwn.”
“Roeddwn ym Merlin pan ddaeth y wal i lawr. Fe wnaeth llawenydd a cherddoriaeth lenwi’r ddinas,” meddai.
“Erbyn heddiw, mae myfyrwyr sy’n astudio fy ngherddi yn fy e-bostio o Baris, Rhufain a Madrid gyda chwestiynau. Mae’r teimlad o adael y teulu hwn yn boenus ac yn annaturiol.”
Yn ôl cyn-reolwr BBC Cymru, Geraint Talfan Davies ac sy’n gadeirydd Cymru’n Gryfach yn Ewrop, mae’r datganiad yn dangos bod Ewrop yn “rhan ohonom.”
“Mae’r gefnogaeth gynhwysfawr hon o’r gymuned ddiwylliannol yng Nghymru yn dangos bod ein cysylltiadau ag Ewrop llawer dyfnach na’r hyn allwch ei fesur ar fantolen,” meddai.
“Mae’n gadarnhad croch nad “nhw” yw Ewrop, ond bod Ewrop yn rhan ohonom.”
Llofnodwyr
Rebecca Afonwy-Jones, David Anderson, Elinor Bennett, Hilary Boulding, Ceri Black, Myrddin ap Dafydd, Ifor ap Glyn, Elen ap Robert, Horatio Clare, Gillian Clarke, Alfredo Cramerotti, Sybil Crouch, Catrin Dafydd, Fflur Dafydd, Sian Melangell Dafydd, Dilwyn Davies, Geraint Talfan Davies, Carole-Anne Davies, David Drake, Laura Drane, Daniel Evans, Marc Evans, Rebecca Evans, Graeme Farrow, Catrin Finch, Peter Finch, Hannah Firth, Connie Fisher, Peter Florence, Chris Grace, Mali Harries, Gwynne Hughes- Jones, Gwyneth Glyn, Jon Gower, Matthew Gravelle, Kathryn Gray, Tristan Llyr Griffiths, Arwel Gruffydd, Bethan Gwanas, Tessa Hadley, Eluned Haf, Patrick Hannay, Richard Harringtom, Paul Henry, Mererid Hopwood, Philip Hughes, David Jackson, Angela V John, Tudur Dylan Jones, T. James Jones, Aneirin Karadog, Paul Kaynes, David Kempster, Lothar Koenigs, Christine Lewis, Gwyneth Lewis, Sophie Lewis, Robin Llywelyn, Betsan Llwyd, Chris Loyn, Donald Maxwell, Patrick McGuiness, Karen McKinnon, John Metcalf, Robert Minhinnick, Gillian Mitchell, Twm Morys, Yvonne Murphy, Tiffany Murray, Dennis O’Neill, John Osmond, Hefin Owen, Richard Parnaby, David Pountney, Angharad Price, Philip Pullman, Manon Rhys, Tim Rhys-Evans, Ceri Wyn Richards, Menna Richards, Carlo Rizzi, Camilla Roberts, Wiliam Owen Roberts, Eurig Salisbury, Michael Sheen, Owen Sheers, Lleuwen Steffan, Wiard Sterk, Prof Dai Smith, Ed Talfan, Kevin Tame, Kully Thiarai, Ed Thomas, Elin Manahan Thomas, Leo Thomson, Jeremy Turner, Yvette Vaughan-Jones, Amy Wadge, William Wilkins, Gwyn L Williams, Alison Woods, Samantha Wynne-Rhydderch.