Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood a Llywydd y Cynulliad Elin Jones yn cyfarfod y Frenhines (Llun: Senedd.tv)
I sain y canonau’n cael eu saethu a’r baneri brenhinol yn cael eu codi, fe gyrhaeddodd y Frenhines Fae Caerdydd er mwyn agor pumed tymor y Cynulliad Cenedlaethol yn swyddogol heddiw.

Yn bresennol hefyd y mae Dug Caeredin, Tywysog Siarl a Duges Cernyw, a chafodd y byrllysg newydd ei osod yn ei le yn y Siambr.

Yn ei hanerchiad, fe groesawodd Elin Jones, Llywydd y Cynulliad, pawb i’r agoriad gan gydnabod cyfraniad y Frenhines am wasanaeth am “fwy na chwe degawd” a hynny ym mlwyddyn ei phen-blwydd yn 90 oed.

Cyfeiriodd hefyd at ddegfed flwyddyn y Senedd gan ddweud ei fod yn “ganolbwynt i ddemocratiaeth Gymreig.”


Y Frenhines yn y Senedd (Llun: Senedd.tv)
Araith y Frenhines

Yn ei haraith fe estynnodd y Frenhines ei llongyfarchiadau i’r Aelodau Cynulliad sydd newydd eu hethol gan ddweud y “gall y Senedd fod yn falch o sut mae’n ymgysylltu â’r cyhoedd ar draws Cymru.”

Dywedodd hefyd y bydd y Senedd yn cael mwy o bwerau yn ystod y pumed tymor, a hynny’n ymwneud â phwerau treth.

‘Aeddfedrwydd y Senedd’

Fe ddywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, fod yr achlysur hwn yn ddigwyddiad arbennig “wrth i agenda newydd gael ei datblygu i Gymru.”

“Yn y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod fe fydd mwy o bwerau’n cael eu datganoli ac yn nodi aeddfedrwydd y Senedd.”

Yn ogystal, fe bwysleisiodd nad oes yr un blaid â mwyafrif yn y tymor hwn ac am hynny fe fydd angen “gweithio gyda’n gilydd i drafod, cyfaddawdu a chyflawni dros bobol Cymru.”

Roedd Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Bethan Jenkins eisoes wedi cyhoeddi na fyddai’n mynd i’r agoriad swyddogol am ei bod yn “weriniaethwr ymroddedig.”

Yn rhan o’r seremoni, mae perfformiadau gan Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Only Boys Aloud, y delynores Anne Denholm a pherfformiad o gerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, i nodi’r achlysur, sef ‘Y tŷ hwn’.