Mae dwy ferch yn eu harddegau wedi cyfaddef cipio plentyn o siop Primark tra roedd perthynas yno’n siopa.

Fe ymddangosodd y ddwy, 13 a 14 oed, gerbron llys ieuenctid yn North Shields, North Tyneside i gyfaddef cipio’r ferch dwy oed o’r siop yn Newcastle ar 13 Ebrill.

Fe ddychwelodd y plentyn at ei mam ar ôl awr a 45 munud ar ôl i’r merched gael eu gweld ar gamerâu teledu cylch cyfyng yn mynd a’r ferch i barc tair milltir i ffwrdd yn Gosforth.

Roedd y ddwy wedi cael eu cyhuddo o gipio gyda’r bwriad o gyflawni trosedd rywiol ond fe dderbyniodd yr erlyniad eu ple i’r cyhuddiad o gipio.