Y Cynulliad Cenedlaethol ym Mae Caerdydd
Fe fydd y Frenhines, Dug Caeredin, Tywysog Siarl a Duges Cernyw ym Mae Caerdydd heddiw i agor tymor newydd y Cynulliad Cenedlaethol yn swyddogol.

Mae disgwyl areithiau gan y Llywydd Elin Jones, y Frenhines a’r Prif Weinidog Carwyn Jones wrth i’r byrllysg gael ei gludo i’r Senedd i ddynodi agoriad y Cynulliad.

Mae disgwyl hefyd y bydd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, yn cyhoeddi Mesur Cymru a fydd yn trosglwyddo mwy o bwerau o San Steffan i Fae Caerdydd.

Y gred yw y bydd y Mesur yn cynnwys newidiadau ers cyhoeddi ei fersiwn ddrafft, yn dilyn misoedd o ddadlau dros eglurder y Mesur.

Bydd y newidiadau hyn yn cynnwys pwerau dros etholiadau, ac felly’r pŵer i newid yr oed pleidleisio, pwerau ar drafnidiaeth a phwerau ynni.

Mae disgwyl y bydd hawl gan y Cynulliad ail-enwi ei hun hefyd i fod yn “Senedd Cymru.”

Eisoes, mae un o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru, Bethan Jenkins, wedi cyhoeddi na fydd hi’n mynychu’r seremoni am ei bod yn “weriniaethwr ymroddedig.”

‘Adlewyrchu’r pwysigrwydd’

Mewn datganiad, dywedodd y Llywydd Elin Jones fod Agoriad Swyddogol y Cynulliad yn “rhan mor bwysig o fywyd Cymru.”

“Mae’n bwysig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei gadarnhau fel canolbwynt ar gyfer bywyd dinesig, gwleidyddol a diwylliannol Cymru,” meddai Elin Jones AC Plaid Cymru.

“Mae hefyd yn gyfle i ni arddangos a dathlu’r doniau sydd gennym yma yng Nghymru, wrth i ni nodi dechrau Pumed Cynulliad Cenedlaethol Cymru.”

“Dyma Agoriad Swyddogol Senedd Cymru a dyna pam y mae angen inni sicrhau bod yr achlysur ei hun yn adlewyrchu’r pwysigrwydd hwnnw,” ychwanegodd.

Perfformiadau

Fel rhan o’r seremoni, fe fydd perfformiadau gan Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Only Boys Aloud, y delynores Anne Denholm a pherfformiad o gerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, i nodi’r achlysur, sef ‘Y tŷ hwn’.

Fe fydd disgyblion o ysgolion ar draws Cymru’n bresennol hefyd, a bydd modd dilyn y digwyddiadau ar Senedd.tv neu ar y sgrin gaiff ei gosod tu allan i’r Senedd.