Mae gan nifer y pleidleiswyr hŷn ac iau ran allweddol i’w chwarae yng nghanlyniad y refferendwm tros aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd ar Fehefin 23, yn ôl astudiaeth newydd.

Fe allai’r ymgyrch i aros yn Ewrop ennill o drwch blewyn os bydd 1% o gynnydd yn nifer y bobol ifanc rhwng 18 a 24 oed sy’n pleidleisio o gymharu â ffigurau’r etholiad cyffredinol y llynedd, yn ôl astudiaeth gan y Press Association.

Er hyn, os bydd cynnydd o 2% yn nifer y bobol 55 oed neu’n hŷn sy’n pleidleisio – fe allai’r ymgyrch i adael ennill.

Yn yr etholiad cyffredinol y llynedd, dim ond pedwar ymhob deg o bobol ifanc rhwng 18 a 24 oed wnaeth bleidleisio. Er hyn, fe wnaeth mwy na thri chwarter o bobol 55 oed neu’n hŷn bleidleisio.

‘Trafodaeth genedlaethol’

Mae’r astudiaeth yn seiliedig ar bolau piniwn diweddar ac yn ôl y dadansoddwyr, mae’r mwyafrif o bleidleiswyr hŷn sydd wedi cymryd rhan yn y polau yn ffafrio gadael Ewrop – tra bo pedwar ymhob pump o bleidleiswyr iau yn cefnogi aros.

Yr wythnos diwethaf fe wnaeth y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol (ERS) gyhoeddi arolwg yn dangos bod 47% o bobol rhwng 18 a 24 yn dweud y bydden nhw’n bendant yn mynd i bleidleisio yn y refferendwm.

Ond, roedd y ffigwr yn llawer uwch i bobol 65 oed neu’n hŷn, gyda 80% yn dweud y bydden nhw’n pleidleisio.

“Mae tua phedwar miliwn o bobol rhwng 18 a 24 oed heb gofrestru,” meddai Darren Hughes, Dirprwy Brif Weithredwr ERS.

“Dylai’r refferendwm hwn ddim cael ei benderfynu gan un genhedlaeth ar ran un arall – mae hwn yn drafodaeth genedlaethol hollbwysig sydd angen cynnwys pawb, nid y pleidleiswyr hŷn yn unig,” ychwanegodd.

Daw’r astudiaeth ar y diwrnod olaf i gofrestru i bleidleisio (Mehefin 7), a llai na thair wythnos cyn y refferendwm ar Fehefin 23.