Coets fawr Caergybi-Llundain (Llun: Y Post Brenhinol)
Mae Caerdydd wedi bod yn rhan o ddathliadau 500 mlynedd ers sefydlu’r Post Brenhinol, wrth i goets fawr a cheffylau ddod i stop yn adeilad y Pierhead yn y Bae heddiw.

Mae’r goets ar ei thaith o gwmpas gwledydd Prydain, ac fe fydd hi’n mynd am Gaeredin erbyn dydd Mawrth (Mehefin 7); Belffast erbyn dydd Sadwrn nesa’ (Mehefin 11) cyn cyrraedd Llundain y Sadwrn dilynol, Mehefin 18.

Ar ei thaith, mae staff presennol y Post Brenhinol yn codi arian i elusennau.

Yn 1616, nifer bach iawn o lythyrau oedd yn cael eu hanfon, o gymharu â’r naw miliwn o lythyrau sy’n cael eu trin a’u trafod yng Nghaerdydd yn unig erbyn heddiw. Mae nifer y parseli’n ychwanegol at hynny, meddai’r Post Brenhinol.