Hywel Gwynfryn a Muhammad Ali yn 1966 (Llun o archif BBC Cymru)
Mae’r Cymry sydd wedi bod yn rhannu atgofion am gyfarfod y bocsiwr, Muhammad Ali, yn cynnwys darlledwr mwya’ profiadol Radio Cymru, a chyn-Ddirprwy Brif Weinidog Cymru.
Tra cafodd Hywel Gwynfryn gyfle i gyfweliad y pencampwr pwysau trwm ar gyfer y rhaglen Heddiw yn 1966, fe ddaeth y gwleidydd Ieuan Wyn Jones wyneb yn wyneb ag Ali yn ddiweddarach yn ei oes, yn 2008. Ac mae’r ddau wedi bod yn nodi hynny yn eu ffyrdd eu hunain heddiw.
Mae Hywel Gwynfryn, ar wefan Cymru Fyw, BBC Cymru, yn cofio mynd â chopi o gyfrol o gerddi T H Parry-Williams i’r cyfarfyddiad, a gofyn i Muhammad Ali os oedd o’n ymwybodol o’r bardd Cymraeg. Roedd Muhammad Ali ei hun yn hoffi trin geiriau – weithiau’n wamal ac yn gawslyd, ond dro arall yn gofiadwy – ac meddai am TH, “Hey, I know that guy!”
Ar wefan Facebook y cyhoeddodd Ieuan Wyn Jones, cyn-arweinydd Plaid Cymru a fu’n Ddirprwy Weinidog yn llywodraeth glymblaid Llafur-Plaid Cymru ym Mae Caerdydd, heddiw lun a gair o deyrnged i’r bocsiwr.
“Llun i’w drysori,” meddai dan y llun ohono ag Ali. “Cyfarfod y dyn ei hun yn 2008 a chael amser gwych yn ei gwmni.”