Llun: Heddlu Gwent
Mae Heddlu Gwent wedi rhyddhau llun o gar llachar sydd wedi’i gymryd gan ei berchennog, wedi i’r cerbyd gael ei yrru “mewn modd anghymdeithasol” ar un o strydoedd Casnewydd fore heddiw.

Mae’r Lamborghini o liw oren metalaidd yn cael ei gadw gan yr heddlu ers ei atal ar Heol Cromwell yn y ddinas, ac mae’r perchennog wedi’i arestio am fethu prawf cyffuriau ar fin y ffordd.

Fe gafodd y stori ei rhyddhau toc cyn cinio heddiw gan Heddlu Gwent, ac mae hi eisoes wedi denu ymateb gan dros 1,100 o bobol ar wefan gymdeithasol Facebook.