Ceinewydd, gyda'r Traeth Gwyn yn y pellter (Des Adams CCA2.0)
Mae gweithwyr bad achub wedi rhybuddio pobol am beryglon cael eu dal gan y llanw ar ôl gorfod achub teulu ac anifail anwes yn un o brif drefi glan môr Cymru.
Fe gadarnhaodd yr RNLI bod un o beirianwyr y gwasanaeth wedi cario’r teulu i ddiogelwch ar ôl y digwyddiad yng Ngheinewydd Ceredigion ddydd Mercher.
Roedd yn un o gyfres o ddigwyddiadau tebyg yn ystod gwyliau hanner tymor, medden nhw.
Y rhybudd
“R’yn ni’n gal war bobol i edrych ar amseroedd y llanw cyn mentro mas ar y glannau,” meddai Sam Trevor ar ran y Gwasanaeth Badau Achub.
“ Mae’r RNLI yn anffodus wedi cynorthwyo nifer o grwpiau sydd eu dal gan y llanw yn ystod yr wythnos ddiwetha’.
“Mae’n hawdd mynd allan am dro ar y arfordir cyn canfod fod y tywod wedi diflannu a’r llanw yn dod i fewn.”
Y digwyddiad
Ddydd Mercher, roedd peiriannydd gyda’r gwasanaeth wedi gweld y teulu mewn trafferth ar greigiau rhwng Traeth Gwyn a harbwr yng Ceinewydd ac wedi rhwyfo’i gwch yn agos at y creigiau i godi’r fam a thri o blant.
Fe gafodd y tad gymorth gan aelod arall o’r tîm i gerdded trwy’r tonnau.