Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C (Llun y sianel)
Mae pennaeth rhaglenni newydd S4C yn dweud bod yna “gyfle ffantastig” i roi Cymru ar y map ym myd darlledu.
A rhan o weledigaeth Amanda Rees, sydd newydd ei phenodi’n Gyfarwyddwr Cynnwys y sianel, yw addasu’r deunydd i siwtio ffyrdd newydd o wylio rhaglenni teledu, yn enwedig ymhlith pobol ifanc.
Y nod, meddai wrth golwg360, “yw dathlu popeth sy’n bositif am ein diwylliant ni” a “pharhau i greu arlwy sy’n gallu cystadlu ag arlwy sianeli eraill ar draws Prydain ac ar draws y byd”.
Addasu i lwyfannau newydd
Mae S4C yn darparu’n llwyddiannus ar gyfer gwylwyr hŷn, meddai Amanda Rees – yr her yw cyrraedd gwylwyr, er enghraifft rhwng 18 a 35 oed, sydd bellach yn gwneud llawer o’u gwylio ar-lein.
“Mae eisie creu cynnwys sy’n addas i’r ffordd y mae pobol yn gwylio,” meddai. “Mae’r platfformau digidol newydd yn cynnig cyfleoedd gwahanol ac mae’n rhaid i ni edrych ar hynny.”
Roedd yn mynnu bod rhaglenni S4C eisoes yn cyrraedd llawer mwy o bobol nag y mae’r ffigurau traddodiadol yn eu dangos, gan gynnwys pobol dramor.
Ond y cam cynta’, meddai oedd trafod rhagor gyda’r tîm yn y sianel cyn egluro rhagor.
Creu rhaglenni â gwerth masnachol
Roedd datganiad S4C wrth gyhoeddi’r penodiad – fe fydd yn dechrau yn yr haf gan ddilyn y Cyfarwyddwr Cynnwys presennol, Dafydd Rhys – yn pwysleisio cefndir Amanda Rees mewn cynyrchiadau ar y cyd gyda gwledydd eraill.
Ond nid ar draul rhaglenni i Gymru ac am Gymru y byddai hynny’n digwydd, meddai – mae’r math newydd o gyd-gynyrchiadau’n aml yn ymwneud â chreu syniad y mae modd ei allforio.
“Mae’n bosib creu rhywbeth yma sydd â gwerth masnachol iddo. Fydda’ i’n aml yn cyfeirio at fformat y rhaglenni Come Dine With Me sydd wedi mynd ar draws y byd – does dim rheswm na allai’r fformat yna ddod o Gymru.”