Elin Williams, enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes
Un o Lanbedr Pont Steffan yw enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled, a hynny am ei gwaith yn hyfforddi partïon llefaru ers 20 mlynedd.
Bydd Elin Williams yn cael ei gwobrwyo yn swyddogol heno ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint.
Mae wedi bod yn hyfforddi amryw o bartïon llefaru Adran ac Aelwyd Llanbedr Pont Steffan dros y blynyddoedd, ac mae’n dweud mai “gweithio gyda’r gymuned” sy’n ei chymell i wneud y gwaith.
“Fel un o Lanbed, mae’r Urdd wastad wedi bod yn bwysig i mi,” meddai, gan egluro bod gweithgareddau’r Urdd yn rhywbeth “cymunedol” i’r ardal.
Mae Elin Williams hefyd yn is-lywydd cangen Merched y Wawr Llambed ac yn Llywydd Clwb Ffermwyr Ifanc Bro’r Dderi, ble mae hefyd yn hyfforddi’r aelodau i lefaru a pherfformio.
Caiff Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled ei rhoi gan Dewi a Gerallt Hughes, er cof am eu rhieni John a Ceridwen Hughes oedd yn weithgar iawn ym maes ieuenctid.