Canolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd
Mae’r Urdd wedi cadarnhau mai ym Mae Caerdydd fydd yr Eisteddfod yn 2019.
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol hefyd yn y Bae yn 2018, heb faes traddodiadol a heb dâl mynediad i fynd i’r maes chwaith.
Does dim cadarnhad mai hyn fydd y sefyllfa yn Eisteddfod yr Urdd 2019, ond mae’r trefnwyr wedi addo y bydd yn Eisteddfod ‘wahanol’.
Y flwyddyn nesaf, bydd Eisteddfod yr Urdd yn teithio i Ben-y-bont ar Ogwr ac yn 2018, bydd Eisteddfod Brycheiniog a Maesyfed ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.
Mae hon yn ardal ble nad yw aelodaeth yr Urdd yn gryf iawn ond mae swydd newydd wedi’i chreu er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o’r sefydliad – Rhiannon Walker sydd yn gyfrifol am y swydd honno.
Y tro diwethaf i’r Urdd deithio i faes y Sioe oedd yn 1978 a’r tro diwethaf iddi fynd i Fae Caerdydd oedd yn 2009.
‘Mwy cymhleth’
“Mae’n Eisteddfod wahanol ond mae’n Eisteddfod o safbwynt trefnu yn fwy cymhleth, oherwydd mae ‘na gymaint o bartneriaid – dim un ffarmwr a chae gwag sydd yna,” meddai cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Aled Siôn.
“Ac mae’n rhaid i ni drafod ag 20 o wahanol bartneriaid a sefydliadau, felly mae hwnna’n ei wneud twtsh yn gymhleth, a dyna pam mae’r paratoadau wedi dechrau ers rhyw dwy flynedd ac mae popeth yn mynd yn dda iawn.”
‘Her fawr’
Yn ôl Rhiannon Walker, fydd yn gweithio fel Swyddog Prosiect yr Eisteddfod yn 2018, bydd ei chynnal hi ym Mrycheiniog a Maesyfed yn “her fawr” ond un mae’n edrych ymlaen ati hefyd.
Does dim adrannau’r Urdd oedran cynradd yn yr ardal ar hyn o bryd a gobaith Rhiannon Walker yw sicrhau bod gweithgareddau’r Urdd yn yr ardal yn parhau a hynny ar ôl i’r Eisteddfod fod .
“Bydd hi’n her fawr i ddechrau’r gweithgareddau yno, ond dwi’n edrych ymlaen at ddechrau trefnu,” meddai.
“Gobeithio dros yr wythnosau nesaf, bydda’ i’n ymweld ag ysgolion yr ardal, dechrau cyflwyno fy hun i’r ysgolion a dechrau’r bwrlwm tuag at yr Eisteddfod.”