Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i “rêf anghyfreithlon” a barodd dridiau ym mryniau Ceredigion dros benwythnos Gŵyl y Banc.
Maen nhw hefyd wedi cadarnhau eu bod wedi arestio pobl am droseddau’n ymwneud â chyffuriau.
Mae lle i gredu bod tua 2,000 o bobl wedi tyrru i lan y llyn rhwng pentref Llanfair Clydogau a Llanddewi Brefi’r penwythnos diwethaf.
Ond, yn ôl y trigolion lleol, doedden nhw ddim yn ymwybodol o’r digwyddiad.
Caryl Haf Jones, o Gyngor Cymuned Llanddewi Brefi, (Llun: CFfI Cymru)
‘Ceir yn gwibio heibio’
Yn ôl Caryl Haf Jones, aelod o Gyngor Cymuned Llanddewi Brefi, “roedd e’n rhywbeth eitha’ top secret.”
“Heblaw am y sŵn mawr a’r ceir oedd yn gwibio heibio, doedden ni ddim callach o beth oedd yn mynd ymlaen,” meddai.
Dywedodd mai trwy ddarllen adroddiadau mewn papurau newydd y daeth hi, a nifer o drigolion lleol, i wybod am raddfa’r digwyddiad.
Dyw hi ddim yn amlwg eto pwy drefnodd y ‘rêf’, ond mae lle i gredu fod y digwyddiad wedi’i rannu drwy gyfryngau cymdeithasol.
‘Codi ofn’
“Mae e wedi codi ofn arnon ni,” meddai Caryl Haf Jones – “yn enwedig pan mae’r heddlu’n dweud nad oedden nhw wedi gallu gwneud rhywbeth amdano, am nad oedd y ‘cyfleusterau’ ganddyn nhw.”
“Pwy a ŵyr, fe allai rhywbeth fel hyn ddigwydd eto? Fe alle’n nhw fod i fyny yna’r penwythnos nesa, a ninnau’n gwybod dim amdano.”
Esboniodd fod yr ardal wedi bod yn llygad y cyfryngau ar sawl achlysur, gan gynnwys y cyrch cyffuriau enfawr ddiwedd y 1970au, Operation Julie, ac yn fwy diweddar y gyfres deledu Little Britain gyda’r cymeriad ‘Daffyd’.
“Dw i ddim yn siŵr pam fod pethau fel hyn yn digwydd yn Llanddewi dro ar ôl tro? Ydyn nhw’n agor y map ac yn meddwl, ‘dyna le tawel ynghanol unman’, neu ydyn nhw’n edrych ar sefyllfa’r heddlu ac yn cymryd mantais?”
Adrodd am ‘weithgaredd amheus’
Yn ôl Heddlu Dyfed Powys, fe ddaethon nhw i wybod am y sefyllfa yn hwyr nos Sadwrn, Mai 28.
“Gan fod graddfa’r dyrfa yn fawr iawn pan gafodd yr heddlu wybod, gyda nifer o bobl yn rhan ohono ac agweddau o ddiogelwch i’w ystyried i roi terfyn ar y digwyddiad, gwnaed penderfyniad i roi blaenoriaeth i darfu ac atal mwy o bobl a cherbydau rhag mynd i mewn,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
Ychwanegodd fod presenoldeb yr heddlu wedi parhau yn yr ardal dros y penwythnos, gyda Gwasanaeth Awyr yr Heddlu wedi cynorthwyo i gasglu tystiolaeth.
“Rydym yn sicrhau’r gymuned leol fod y gweithrediadau cywir wedi’u cyflawni i ddelio â’r digwyddiad ac y byddwn ni’n ymchwilio’n drwyadl i’r troseddau a gofnodwyd.”
“Fe fyddwn ni hefyd yn cydweithio â phartneriaid i sicrhau nad yw’r lleoliad hwn yn cael ei ddefnyddio at ddibenion o’r math eto.”
Mae’r heddlu’n galw ar y gymuned leol i adrodd am unrhyw “weithgaredd amheus” drwy ffonio 101.