Chris Coleman (Llun: CBDC)
Mae Chris Coleman bellach wedi dewis ei garfan derfynol ar gyfer Ewro 2016 – ac fe fydd cefnogwyr Cymru nawr yn cael cyfle hefyd i ddewis eu tîm delfrydol nhw ar gyfer y gystadleuaeth.

Mewn partneriaeth â sianel Wyddelig TG4, mae S4C wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhedeg cystadleuaeth Cynghrair Ffantasi drwy’r Gymraeg ar gyfer y twrnament.

Bydd modd i ddefnyddwyr wario £100m dychmygol ar dîm o chwaraewyr o unrhyw un o’r timau sydd yn cystadlu yn yr Ewros, ac fe fydd gwobrau ar gael i’r enillwyr sydd yn casglu’r nifer fwyaf o bwyntiau.

“Mae pawb yn gwybod pa mor bwysig yw Euro 2016 i hanes chwaraeon yng Nghymru, ac mae hi’n holl bwysig fod gemau Cymru ar gael i’r cefnogwyr yn fyw ac yn yr iaith Gymraeg ar S4C,” meddai Huw Marshall, Pennaeth Datblygu Digidol S4C.

“Ar-lein, roedden ni eisiau cynnig profiad ychwanegol, i gyd-fynd â’r gystadleuaeth – cyfle i gefnogwyr gystadlu yn erbyn ei gilydd ac i allu gwneud hynny yn yr iaith Gymraeg, yn gwbl naturiol.”

Bydd holl gemau grŵp Cymru yn Ewro 2016 yn cael eu dangos yn fyw ar S4C, gan gynnwys ar HD, ac fe fydd modd cofrestru ar gyfer y gynghrair ffantasi ar wefan s4c.cymru/ffantasi.